Blwyddyn 5 a 6 Tymor yr Hydref 2023 Ein thema'r tymor yma yw ‘Bwyd’. Mae llais y dysgwyr a’u syniadau wrth wraidd y dysgu. Mae croeso i chi drafod thema’r dosbarth gyda’ch plentyn gan ddod ag unrhyw lyfrau, lluniau, arteffactau perthnasol i’r ysgol. Dyma amlinelliad o beth fyddwn yn eu hastudio ym mhob pwnc: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Byddwn yn cyflawni ein gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg am bythefnos ac yna drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd ein gwaith yn cyd-fynd law yn llaw gyda thema’r tymor yn ogystal â llyfr darllen y dosbarth sef ‘Charlie a’r Ffatri Siocled’, addasiad gan Elin Meek. Byddwn yn trafod, darllen ac yn dysgu sut i ysgrifennu: Dwyn i gof, llythyr, gwahoddiad, poster, araith, cyfarwyddiadau a rheolau. Read Write Inc: Bydd y plant yn cael sesiynau Read Write Inc am ugain munud yn ddyddiol i ddysgu sgiliau sillafu Saesneg. Byddwn yn gwrando ar y plant yn darllen, felly mae’n bwysig eu bod yn dod a’u bagiau darllen i’r ysgol bob dydd. Bydd cofnodion darllen yn mynd adref, hoffwn pe baech yn cofnodi ynddo wrth wrando ar eich plentyn yn darllen. Mae croeso iddynt ddarllen llyfrau ychwanegol: cylchgrawn, papur newydd neu unrhyw beth sydd o’i diddordeb. Mathemateg a Rhifedd: Y prif agweddau o rifedd y byddwn yn eu hastudio’r tymor hwn fydd: Adio a thynnu, lluosi a rhannu, gwerth lle, tymheredd, data/dosbarthu, arian, mas, amcangyfrif a gwirio ac ymresymu rhifyddol. Yn ogystal â hyn byddwn yn ymarfer mathemateg pen, cwblhau matiau Mathemateg ac yn datblygu ein gallu i resymu. Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Byddwn yn astudio bwyd a phwysigrwydd deiet cytbwys, effaith bwyd ar y corff, grwpiau bwyd a sut mae byw yn iach. Byddwn hefyd yn datblygu ein sgiliau codio wrth ddefnyddio rhaglenni codio Hwb a Scratch. Y Dyniaethau: Y tymor yma byddwn yn dysgu am o le mae’n bwyd ni’n dod. Byddwn yn edrych ar fwyd o Gymru ac o weddill y byd. Byddwn yn dysgu am fwyd o fewn crefyddau gwahanol ac am y bwydydd rydym yn ei fwyta ar adegau gwahanol o’r flwyddyn. Y Celfyddydau Mynegiannol: Byddwn yn astudio ac yn efelychu gwaith yr arlunydd Paul Cezanne. Byddwn yn braslunio lluniau o fwyd, wrth ganolbwyntio ar liwiau a chysgod. Byddwn yn creu offerynnau allan o fwyd. Byddwn yn ymarfer a dysgu caneuon tuag at ein gwasanaeth diolchgarwch ac ein Sioe Nadolig hefyd. Iechyd a Lles: Pob dydd Llun byddwn yn gwneud gweithgaredd corfforol/chwaraeon. Byddwn yn edrych ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol. Byddwn yn edrych ar bwysigrwydd bwyta’n iach ac ymarfer corff a sut mae hyn yn helpu ein meddylfryd twf. Gwaith Cartref: Bydd y plant yn derbyn gwaith cartref Mathemateg bob pythefnos ac yn yr wythnosau eraill bydd gofyn i’r plant gwblhau tasg gwaith thema. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar ddydd Gwener ac angen cael ei gwblhau erbyn wythnos i ddydd Gwener.
Ysgol Carreg Emlyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs