Blwyddyn 1 a 2 Croeso mawr i Ddosbarth Blwyddyn 1 a 2, i’r plant ac i’r rhieni. Yr athrawes ddosbarth yw Miss Hughes gyda Miss Elen Jones yn cynorthwyo. Byddwn yn cael ‘ymarfer corff’ ar brynhawn Iau. Bydd angen gwisg briodol a gall eich plentyn gadw’r dillad addysg gorfforol yn yr ysgol. Bydd y wisg yn cael ei gyrru adref bob hanner tymor i chi gael cyfle i’w golchi. Yna, bydd angen dychwelyd y wisg i’r ysgol ar ddechrau pob hanner tymor. Gofynnwn hefyd i’r plant ddod a phâr o welingtons i’r ysgol a byddwn yn cadw’r welingtons yn yr ysgol. Bydd llyfrau darllen yn cael eu newid ar ddydd Gwener a dylai’r plant ddod a’u bagiau darllen i’r ysgol bob diwrnod. Mae’n bwysig iawn eich bod yn darllen gyda’ch plentyn bob diwrnod. Mae rhwydd hynt ichi ddarllen llyfrau ychwanegol gyda’ch plentyn- llyfrau o’r llyfrgell neu lyfrau sydd gennych chi adref a gwerthfawrogwn eich sylwadau yn y ‘record darllen’. Mae croeso ichi gofnodi unrhyw lyfrau ychwanegol y byddwch yn eu darllen yn y ‘record darllen.’ Ein thema am y tymor fydd ‘BWYD’ a byddwn yn selio rhan o’r gwaith ar y llyfr ‘Supertaten Llysiau Llawen ’ gan Sue Hendra, addasiad Elin Meek. Byddwn hefyd yn dilyn rhai o syniadau’r plant ac mae croeso ichi drafod y thema adref gyda’ch plentyn a chynnig syniadau. Ar brynhawn Llun bydd Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1a2 gyda Miss Hughes a Miss Elen Jones Ar brynhawn Mercher bydd y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1a2 yn cael prynhawn Antur a Natur gyda Miss Williams, Miss Hughes a Miss Elen Jones Ar brynhawn Iau bydd y Dosbarth Derbyn gyda Miss Williams a Miss Elen Jones. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ‘Adroddiad’ am eu gwyliau haf, cyfarwyddiadau, darn darbwyllo Eco Bwyllgor, poster, rheolau, llythyr, portread, disgrifiad, gwahoddiad a rhestr. Mathemateg a Rhifedd Odrifau ac eilrifau, gwerth lle, degau ac unedau, adio, tynnu, arian, mesur hyd, tymheredd, mas, ffracsiynau, amcangyfri, (rhannu a lluosi Blwyddyn 2). Misoedd y flwyddyn. Fframwaith Digidol Yn y gwaith TGaCh byddwn yn canolbwyntio ar gael y plant mor annibynnol â phosibl wrth ddefnyddio’r cyfrifiaduron gan eu hannog i fewngofnodi ac allgofnodi yn annibynnol wrth ddefnyddio Hwb a Seesaw. Rhoi a dilyn cyfarwyddiadau a codio. Gwyddoniaeth a Thechnoleg Byddwn yn cynaeafu’r llysiau yn yr ardd gan ddysgu am y llysiau, eu coginio a’u blasu. Dangos ymwybyddiaeth o beryglon yn yr amgylchedd. Trafod sut ydym yn effeithio ar yr amgylchedd. Sylwi sut mae deunyddiau’n newid wrth gael eu cymysgu gyda’i gilydd. Iechyd a Lles Byddwn yn gwneud gweithgareddau ‘Saib a Symud’, sef sgiliau ioga cynnar. Byddwn yn ‘rhedeg Milltir Mawr’ ddwywaith yr wythnos. Byddwn yn canolbwyntio ar gymnasteg, sgiliau pêl a gemau tîm syml yn ein gwersi addysg gorfforol. Trafod deiet iach, beth sy’n ddiogel a pheryglus, sut i ofalu am y corff. Byddwn hefyd yn adnabod a thrafod gwahanol deimladau ac yn trafod rheolau’r ysgol. Dyniaethau Dysgu am ddathliaddau diwrnod Owain Glyndwr, Noson Tân Gwyllt a’r Nadolig. Bwyd gwahanol wledydd. Dysgu o ble y daw ein bwyd. Celfyddydau Mynegiannol Dysgu a pherfformio caneuon ar gyfer y Gwasanaeth Diolchgarwch a’r Gwasanaeth Nadolig. ‘Darllen a pherrfformio sgriptiau syml. Dysgu am yr artist Guiseppe Arcimboldo. Edrychwn ymlaen at gael tymor prysur a hwyliog gyda’r plant a diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Ysgol Carreg Emlyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs