Blwyddyn 3 a 4 Tymor yr Hydref 2023 Croeso i Ddosbarth Blwyddyn 3 a 4. Ein hathrawes ddosbarth yw Miss Elan Jones a byddwn yn canolbwyntio ar y thema ‘Bwyd’ ar hyd y tymor. Dyma beth fyddwn yn ei astudio ym mhob maes dysgu a phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Byddwn yn gwneud ein gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg am bythefnos ac yna trwy gyfrwng y Saesneg. Byddwn yn trafod, darllen ac yn dysgu sut i ysgrifennu adroddiad, araith, cyfarwyddiadau, poster, rheolau, gwahoddiad ayyb. Byddwn hefyd yn darllen ac astudio ‘Caffi Ffwlbart’ gan Sam Llywelyn ble fyddwn yn cyfnewid iaith y llyfr yn unol â’r wythnosau iaith. Yn ogystal, fe fyddwn yn cael gwersi ‘Read, Write, Ink’ bob bore, er mwyn ymarfer a datblygu sgiliau sillafu Saesneg y dysgwyr. Mathemateg a Rhifedd: Y prif unedau y byddwn yn eu hastudio dros yr hanner tymor gyntaf fydd adio a thynnu, gwerth lle, tymheredd, gwaith data, amcangyfrif a gwirio, ymresymu rhifyddol, datblygu sgiliau mathemateg pen a byddwn yna’n symud ymlaen i ddatblygu sgiliau gwahanol dros weddill y tymor. Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Yn ystod y tymor byddwn yn cael cyfle i: arbrofi a datgan pa ddiodydd sydd fwyaf afiachus i'r corff; coginio gyda llysiau’r ardd; a darganfod sut all daten gynhyrchu egni trydanol. Y Dyniaethau: Byddwn yn astudio bwydydd traddodiadol gwahanol wledydd a sut mae’r diwydiant bwyd wedi newid ar hyd yn blynyddoedd. Byddwn hefyd yn ymchwilio a datgan gwybodaeth am ddathliadau megis Y Nadolig, Diwali, Calan Gaeaf, Owain Glyndwr a Noson Tan Gwyllt. Iechyd a Lles: Byddwn yn cynnal ein gwersi ymarfer corff bob prynhawn Dydd Mawrth. Yn ystod yr hanner tymor cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ac ymarfer sgiliau pêl rwyd. Dros weddill y tymor, byddwn yn canolbwyntio ar wersi datblygu sgiliau gymnasteg. Yn ychwanegol,fe fydd y dysgwyr hefyd yn cael cyfle i redeg y ‘filltir fawr’ dwywaith yr wythnos er mwyn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Yn ogystal â chadw’r corff yn iach, byddwn hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw’r meddwl yn iach. Byddwn yn trafod pynciau megis pryder, bwlio a dathlu bod yn wahanol. Wrth wraidd ein gwersi iechyd a lles, byddwn hefyd yn deall cydberthynas gweithgarwch corfforol a meddwl iach. Celfyddydau Mynegiannol: Yma, byddwn yn atsudio gwaith a thechnegau Andy Warhol ble defnyddir bwyd yn aml fel ysgogiant celfyddydol. Fe fydd sgiliau drama yn llifo yn naturiol o fewn y dosbarth gan i'r dysgwyr wneud llawer o waith llafar a pherfformio fel rhan o’u gwaith. Rydym hefyd yn ffodus i gael sesiynau gweithdy cerddoriaeth er mwyn dysgu sut i chwarae offerynnau newydd. Cymhwysedd Digidol: Mae cymhwysedd digidol yn sgil bwerus i'w ddatblygu ar gyfer y dyfodol felly byddaf yn sicrhau fod y dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymchwilio yn annibynnol a datblygu’r sgiliau sylfaenol o fewn y gwersi. Byddwn hefyd yn rhoi pwyslais ar yr elfen dechnoleg drwy ddatblygu eu sgiliau codio. Gwaith cartref: Bydd y plant yn derbyn gwaith cartref mathemateg bob pythefnos ac yn yr wythnosau eraill, bydd gofyn i'r plant gwblhau tasg gwaith thema. Bydd y gwaith cartref yn cael ei osod ar Ddydd Gwener a gofynnir iddo gael ei gwblhau erbyn y Dydd Gwener sydd i ddilyn. Edrychwn ymlaen at gael tymor prysur a hwyliog gyda’r plant a diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Ysgol Carreg Emlyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs